Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 9
Hydref 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
I ofyn i’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi argymhellion adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i ladd June Fox-Roberts?
I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru, ynghyd â thalu’r gosb ariannol o £24.1 miliwn, yn gwneud gwelliannau hirdymor o ran lleihau llygredd a gollyngiadau?
(5 munud)
(30 munud)
NDM8683 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024.
(60 munud)
NDM8685 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub” a osodwyd ar 6 Mehefin 2024.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024.
(30 munud)
NDM8682 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas’ a gasglodd 13,247 o lofnodion.
Dogfennau ategol
Gohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Pwyllgor Deisebau (Saesneg yn unig)
(60 munud)
NDM8686 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu' gan yr NAHT sy'n nodi bod y dirwedd addysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu argyfwng cyllido dirdynnol.
2. Yn gresynu o ganlyniad i gamreolaeth a thanariannu Llywodraeth Cymru:
a) fe welodd Cymru ei chanlyniadau PISA gwaethaf erioed yn 2022;
b) ei bod wedi methu ei tharged ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd diwethaf;
c) fod canllawiau ar ddysgu sgiliau darllen sydd wedi dyddio a’u tanseilio wedi cael effaith negyddol ar sgiliau llythrennedd; a
d) cyrhaeddodd nifer y swyddi gwag o ganlyniad i diffyg sgiliau yng Nghymru cyrraedd uchafbwynt o 20,630 yn 2022.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) anrhydeddu ar unwaith yr ymrwymiad a wnaed gan Lafur yng Nghymru yn eu maniffesto Etholiad Cyffredinol 2024 ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer addysg;
b) gwrthdroi'r toriad o 6 y cant mewn gwariant fesul disgybl o fewn y gyllideb addysg, fel y nodwyd gan yr NAHT, fel cam cyntaf i gefnogi athrawon a disgyblion a chodi lefelau cyrhaeddiad; ac
c) diffinio faint mwy o athrawon fydd yn cael eu hariannu gan addewid Llafur yng Nghymru, a phryd y byddant yn dechrau addysgu mewn ystafelloedd dosbarth.
Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr NAHT, ac yn cydnabod y pwysau ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol.
2. Yn diolch i athrawon a staff ysgol ymroddedig Cymru am eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon.
3. Yn cydnabod, er gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi:
a) cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a system newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system addysg;
b) gweithredu dull ysgol gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac
c) diogelu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel.
4. Yn cefnogi hybu safonau mewn ysgolion a cholegau fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd.
5. Yn cefnogi targedu recriwtio athrawon mewn meysydd pwnc prin fel mathemateg, gwyddorau ac ieithoedd tramor modern, ac addysg cyfrwng Cymraeg.
(30 munud)
NDM8684 Sian Gwenllian (Arfon)
Llenwi’r bwlch: yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Hydref 2024